DYFODIAD – MR. ROBT. VAUGHAN
AER NANNAU, I’W OED – MEDI 18, 1887
“ASGRE LAN DIOGEL EI PHERCHEN.”
TESTEN GWOBRWYEDIG YN EISTEDDFOD MEIRION CALAN, 1888.
Pa beth yw twrf magnelau
Adseinia dros y wlad?
A oes ryw ran o Feirion hoff
Yn awr yn faes y gad?
Na, na, mae duwies rhyddid
Yn rhodio’n uchel ben,
A gorthrwm gyda’i galon ddur
Yn llechu hwnt i’ llen;
Ein ROBERT VAUGHAN o Nannau,
Yn un ar hugain oed,
Hiliogaeth hen foneddwyr hael,
Na fu eu gwell erioed,
Sy’n peri fod y creigiau
Yn gollwng tan o’u col:
Daw Fychan eto’n hyddysg air
Ar dafod Cymru’n ol.
O hil frenhinol Bleddyn* ;
Ab Cynfyn, enwog wr,
I’r penaf lwyth yn Mhowys hen
Tywysog oedd, a thwr:
I lawr drwy’r dewr Gadwgan,
A Madog uchel fri,
Ac Ynyr Fychan fawr ei ddawn
Y daeth ein gwron ni;
Pa ryfedd os yw gobaith
Yn ysgafnhau ein pwn,
Wrth dynu’r prif linellau’n glaer
Yn narlun bywyd hwn,
Sy’n awr yn dechreu teithio
Yn nghwmni duwies flawd:
O’i balmant aur ymwared rydd
I lawer Cymro tlawd.
Rhoes heibio wisgoedd bonedd,
A’u bywyd uchel hwy;
Cyn dod i’w oed amcanai ef
Am gyrhaedd nod oedd fwy,—
Na byw yn nghanol moethau
Yn gyfan rhoes ei fryd
Ar ddod i fysg llafurwyr glew
Sy’n goddef caled fyd;
Prif nodwedd ei hynafiaid
Oedd cydymdeimlad cu,
A hawliai serch y werin dlawd
Yn nyddiau’r “Cymru fu;”
Mae gobaith Meirion eto
Am noddwr hael i’r bon,
Un fel yr hen Fychaniaid gynt,
Yn mherson Robert Vaughan.
Mae calon cynes Cymro
Yn curo dan ei fron;
Dychmygaf fod ysbrydoedd pur
Ei dadau’r fynyd hon
Yn tremio mewn edmygedd,
A gwir foddhad, i lawr
O wynfa wen, eu cartref hwy,
Er gwel’d y croesaw mawr
A rydd trigolion Machreth
i’r newydd dwf o’u hil,
A Dolygella’n rhoddi bloedd
“Hwre” o enau mil;
Hir oes o ddyddiau dedwydd,
Yn llaw Penllywydd Nef,
A duwies iechyd, hardd ei lliw,
Gusano’i ruddiau ef.
Boed hen ddiareb Nannau,*
Fel awel hwyrddydd ha’
Yn dwyn rhyw falmaidd arog] per
Qddiar bob peth a wna;
Yr hen Foel Orthrwm enwog,
Ar Cynwch sydd gerllaw,
A fo’n cydadsain clodydd hwn
Am fil o oesau ddaw;
A Nannau’n ddinas noddfa,
I ddianc rhag bob clwy’
A ddichon eisiau creulawn roi
Yn unlle mewn tri phlwy’
Mae moliant yn ymarllwys
Yn beroriaethus don
Fel twrf y mor oddiwrth ryw lu
I’e gwir foneddwr Vaughan.
Fe lwydda’r Aer wrth oesi,
I anfarwoli’r dydd,
Os geill ef ychwanegu perl
Godidog at y sydd
Yn nghoron ogoneddus
Cymeriad Nannau fawr,
A ddygwyd gan hanesiaeth bur
Yn loyw yma i lawr;
A phan ddaw ymddatodiad,
Tangnefedd fyddo’i ran
A i lwch mewn hedd yn meddrod mawr
Y teulu yn y Llan
Ei goffadwriaeth wedyn
Fel seren danbaid glir,
Fo’n aros i oleuo bro :
Llanfachreth, amwil dir
…RHYS CAIN
“Asgre lan diogel ei pherchen.”
Bleddyn ab Cynfyn oedd Dywysog Cymru yn y flwyddyn 1068, cyfrifir ef yn llyfrau yr achau fel y penaf o Bum Llwyth Brenhinol Powys, fel y prawf dywediad un o’r hen feirdd:—
“Bleddyn ab Cynfyn bob cwys
Ei hun bioedd hen Bowys.”
Cadwgan, yr hwn oedd yn oesi yn y flwyddyn 1125, ydoedd dad Madog a’i fam Gwenllian, merch Gruffydd ab Cynan Tywysog Cymru, a Madog oedd dad Ynyr Fychan, ac yr oedd Robert Vychan o’r Hengwrt, y deuddegfed yn disgyn yn y llinach o’r dywededig Ynyr Fychan.
