Book Review The Free Library.com (Welsh Language)

NANNAU: A RICH TAPESTRY OF WELSH HISTORY

Os oes gynnoch chi ddiddordeb mewn hanes lleol a PS30 i’w sbario, mae cyfrol Saesneg ‘Nannau, a rich tapestry of Welsh History’ yn gyfrol gwerth ei chael.

Un o ddisgynyddion y teulu Nanney sydd wedi ei sgwennu, ac mae’n amlwg wedi treulio blynyddoedd yn gwneud yr ymchwil a chasglu’r lluniau wirioneddol hardd sydd ynddi, rhai yn luniau na welais i erioed o’r blaen. Mae’n bechod nad oes fersiwn Gymraeg ar gael ond dyna fo, mae’n gyfrol o ddiddordeb mawr i ddisgynyddion hen deuluoedd bonedd Sir Feirionnydd, ac ychydig iawn o’r rheiny sy’n siarad a deall Cymraeg bellach.

Mae’r llyfr yn rhoi golwg i ni ar ddiwylliant, gwleidyddiaeth a hanes Cymru mewn cyfnod o 900 mlynedd ers yr 11eg ganrif pan fu teuluoedd Nannau a’r Fychaniaid yn byw’n ddi-dor ar y safle, rhyw 700 troedfedd uwch ben Dolgellau, ym mhlwy Llanfachreth.

Disgynyddion Cadwgan ap Bleddyn, Tywysog Powys gododd yr adeilad gwreiddiol yn ol yn yr unfed ganrif ar ddeg, ac mae’n debyg mai’r pumed adeilad ydi’r un presennol. Yn anffodus, mae hwnnw’n mynd a’i ben iddo ers blynyddoedd, diolch i ugain mlynedd o gael ei esgeuluso a’r pydredd sych sydd wedi treiddio drwyddo. Dim ond cragen sydd ar ol o adeilad a fu unwaith yn un dai harddaf Sir Feirionnydd. A’r hen greiriau teuluol? Gwerthwyd nifer fawr ohonyn nhw mewn sel ddigon di-nod yng Ngwlad yr Haf yn 2008; pethau fel lluniau gan Richard Wilson a William Parry ac eitemau gafodd eu gwneud allan o Geubren yr Ellyll, coeden dderwen anferthol (27 troedfedd am y bonyn) gafodd ei chwythu i’r llawr mewn storm fis Gorffennaf 1813.

Roedd hi wedi cael yr enw am fod corff Hywel Sele, 9fed Arglwydd Nannau, medden nhw, wedi ei daflu i mewn i dwll ynddi gan Owain Glyndwr, ac wedi aros yno am ryw 40 mlynedd. Yn ol y chwedl, roedd Owain yn amau fod Hywel yn gyfrifol am wahodd Henry Hotspur i’r ardal pan gawson nhw anferth o frwydr wrth ymyl Cader Idris. Glyndwr enillodd, ond roedd o’n flin, felly mi losgodd Nannau yn ulw a chymryd Hywel yn garcharor. Y son ydi fod mab yng nghyfraith Hywel a 200 o ddynion wedi ceisio ei achub ar bont Llanelltyd, a bod 60 wedi eu lladd yn y ffeit honno, ond bod abad Abaty Cymer (oedd yn cefnogi Glyndwr) wedi llwyddo i berswadio Owain y byddai Hywel yn ei gefnogi o hyn ymlaen os cai ei ryddhau.

Wedyn (yn ol y son eto), aeth y ddau i hela ceirw ond mi drodd Hywel ei fwa a saeth at Owain a’i saethu. Roedd hwnnw’n gwisgo crys haearn, felly chafodd o mo’i frifo ac mi laddodd Hywel yn syth – a thaflu’r corff i mewn i’r hen dderwen. Stori wir? Pwy a wyr, ond mae’r creiriau gafodd eu gwneud o’r ‘Ceubren’ yn sicr yn bod; mae ‘na rai yn Amgueddfa Cymru, ac mae ‘na luniau gwych ohonyn nhw yn y gyfrol, ynghyd a manylion y parti anferthol gafwyd efo nhw yn 1824 i ddathlu pen-blwydd etifedd ‘Yr Hen Syr Robert’ yn 21ain. Syr Robert Williams Vaughan oedd enwau’r tad a’r mab, ond y tad (1768-1843) oedd yr un hael, clen. Wel, os nad oeddech chi’n Fethodist. Doedd o’m yn rhy hoff o’r rheiny. Yn 1785, roedd cyfarfod cyntaf un y Methodistiaid allan yn yr awyr agored ger Pwll-ygele, achos doedd neb isio pechu Syr Robert drwy gynnal dim yn eu cartrefi, a phan gafodd y boi oedd yn canu clychau’r eglwys ei ddal yn gadael i Fethodistiaid addoli yn ei dy, mi gafodd y sac!

Mae ‘na straeon hynod ddifyr yn y llyfr am dai a theuluoedd eraill fel y Llwyn, Maesyneuadd ac ati a lluniau o bron bob un o’r tai gododd Yr Hen Syr Robert – heblaw f ‘un i! Heblaw am y diffyg hwnnw, mae’n chwip o gyfrol.

BETHAN GWANAS

Courtesy of thefreelibrary.com